Sut mae Ffotogrammetreg yn Gweithio!
Rydym yn creu modelau 3D o feini hirion, henebion ac arteffactau cynhanesyddol eraill gan ddefnyddio proses o’r enw ffotogrametreg. Mae ffotogrametreg yn galluogi ni i greu modelau 3D o gasgliadau o ffotograffau o wrthrych.
1. Tynnu Lluniau
Mae ffotograffau yn gael ei tynnu o onglau wahanol o
gwmpas yr heneb; mae'r ffotograffau yn gael ei tynnu o
dan yr un amodau golau a ni ddylent fod yn bylu neu o
gydrandiad isel.
2. Cyfrifo Safleoedd
Mae'r meddalwedd ffotogrametreg yn alinio'r lluniau trwy darganfod pwyntiau cyfatebol a cydweddu ei safleoedd. Fel mae mwy o bwyntiau yn gael ei ganfod a'u cydweddu, mae'n bosib cyfrifo lle cafodd pob llun ei tynnu, a mae cwmwl pwyntiau gwasgarog yn gael ei greu.
3. Cynhyrchu Cwmwl Pwyntiau
Mae cwmwl pwyntiau trwchus yn gael ei gynhyrchu trwy rhyngosod y pwyntiau o'r cwmwl pwyntiau gwasgarog, a defnyddio'r lluniau i ychwanegu manylion.
4. Creu Ffrâm Wifren
Mae'r cwmwl pwyntiau trwchus yn gael ei troi i ffrâm wifren trwy cysulltu fertigau cyfatebol.
5. Creu Rhwyll
Pan mae'r ffrâm wifren wedi cael ei greu, mae'r arwynebau yn gael ei llenwi i greu rhwyll.
6. Ychwanegu Gwead
Mae'r ffotograffau gwreiddiol yn gael ei gymysgu i creu gwead a gyfer y rhwyll.
7. Defnyddio Modelau 3D
Gall y modelau gael ei allforio i'w defnyddio mewn rhaglenni 3D neu ei brintio yn defnyddio argraffydd 3D.