Amdan y Prosiect

Bydd y prosiect yn ffocysu ar gynhyrchu ddata treftadaeth gyda chymunedau lleol. Bydd lluniau o arteffactau ac amgylcheddau treftadaeth yn cael ei uwchlwytho i‘n gwefan (www.HeritageTogether.org).

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu o dan alwad ‘Cymunedau Cysylltiedig’ y Cyngor Ymchwil Dyniaethau. Mae’r prosiect yn gydweithrediad rhwng yr ysgolion Cyfrifiadureg ym Mhrifysgolion Bangor ac Aberystwyth, ysgolion Archaeoleg ym Mhrifysgolion Bangor a Manchester Metropolitan ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd. Mae’r prosiect yn adeiladu ar brosiect £100,000 blaenorol yr AHRC o dan arweiniad Prifysgol Bangor ‘Safbwyntiau wahanol o’r treftadaeth coll yn Gwynedd’.

Trwy gydweithio â’r cyhoedd, bydd yn bosib i gofnodi ein treftadaeth. Felly mae academyddion o’r tri sefydliad yn gweithio gyda’r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol lleol yn yr Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd ar y prosiect. Dywed Dr Jonathan Roberts:

“Mae’n wych i fod yn gweithio gyda’r gymuned ar y prosiect hwn, bydd yn caniatáu i’r gymuned ddysgu mwy am eu treftadaeth, wrth gwella rheolaeth o’r treftadaeth a caniatáu i wyddonwyr i fonitro ddifrodi neu ei golli o sylwedd o henebion yn llawer mwy effeithiol. Bydd hefyd yn newid ymchwiliadau cydweithredol rhwng y byd academaidd a’r cyhoedd, ac yn ddarparu i’r cyhoedd ffordd newydd o ymgysylltu â’u treftadaeth.”

Teitl ffurfiol y prosiect yw “Cyd-gynhyrchiad o safbwyntiau eraill o dreftadaeth goll”. Mae’n ‘brosiect cyd-gynhyrchu’ oherwydd ein bod (fel academyddion) yn gweithio gyda’r cyhoedd i gasglu safbwyntiau eraill o’n treftadaeth. Yn wir, yr ydym yn gwneud “treftadaeth gyda’n gilydd”. Trwy gydweithio â’r cyhoedd, a chael gwirfoddolwyr i gymryd lluniau o’r asedau treftadaeth, rydym yn gallu i gofnodi ein treftadaeth.

Trwy hynny, mae’n bosib i gasglu a chofnodi mwy o gwrthrychau treftadaeth nag a fyddai’n bosib pe bai’n unig brosiect academaidd. Mae hyn yn gyffrous. Gall pawb, gyda’i gilydd, helpu i cyrraedd ein nodau. Ewch allan – pan oes gennych amser – tynnwch lluniau a cymerwch rhan yn y prosiect. Gallwch chi fynd allan i tynnu lluniau yn ystod eich egwyl ginio, dros benwythnos, neu hyd yn oed dod i Gymru i gwneud gwyliau penodol ohono!

Felly, dewch i gymryd rhan! Tynnwch luniau, uwchlwythwch i’n wefan, a‘u gweld mewn tri-dimensiwn. Os ydych yn dod i un o’n harddangosfeydd , yna efallai y byddwch hefyd yn gweld un o’ch modelau wedi ei argraffu yn 3D, fel gwrthrych diriaethol, ac efallai y gallwch drin eich amcanion mewn 3D ar ein sgrin 3D.

Ein nod yw i dal yr holl feini hirion a charneddau claddu, yn bennaf yn ardal Gwynedd, ond hefyd tu hwnt.

Jonathan (Egwyddor ymchwilydd, Prifysgol Bangor)


 

Diolch o galon i’r bobl a ddaeth i’n dyddiau agored, gweithdai maes a’n ddarlithiau, a fu’n helpu ni brofi a gwella’r wefan, a ychwanegodd data i’r prosiect. Rydym wedi creu dau boster i dangos beth yr ydym wedi dysgu trwy weithio gyda’r cyhoedd yn gwneud gwaith ffotogrametreg.

internet-arch-poster-CY internet-arch-poster-EN

Gwelwch y PDFs llawn yma: HeritageTogether poster CY, HeritageTogether poster EN

Seren (Ymchwilydd, Prifysgol Manchester Metropolitan)

Comments are closed