Cwcis

Preifatrwydd a chwcis ar wefannau

Gwe-dudalennau Swyddogol

Mae gan dudalennau swyddogol y Brifysgol URL ‘sylfaenol’ ar un o’r fformatau canlynol:

  • http://www.heritagetogether.org/directoryname/

Polisi Preifatrwydd Gwefannau a Gwarchod Data

Mae’r Brifysgol yn Rheolwr Data Cofrestredig fel y diffinnir gan Ddeddf Gwarchod Data 1998. Bydd unrhyw fanylion personol a gesglir drwy’r wefan hon ac a roddir gennych chi, yn cael eu prosesu yn unol â’r Ddeddf, a byddant yn cael eu defnyddio at y ddiben neu’r dibenion a nodir ar y dudalen berthnasol.
Efallai y byddwch chi hefyd yn dymuno edrych ar ein –

Preifatrwydd a chwcis ar wefannau

Ar y rhan fwyaf o’r tudalennau ar ein gwefannau swyddogol, rydym yn casglu gwybodaeth log rhyngwyd safonol a manylion patrymau ymddygiad ymwelwyr. Gwnawn hyn er mwyn dod i wybod nifer yr ymwelwyr â gwahanol rannau o wefannau’r Brifysgol. Rydym yn casglu’r wybodaeth hon mewn ffordd na ellir adnabod unrhyw un. Nid ydym yn gwneud unrhyw ymgais i ddarganfod pwy yw’r rhai sy’n ymweld â’n gwefan.
Ni fyddwn yn cysylltu unrhyw ddata a gesglir o’r safle hwn gydag unrhyw wybodaeth bersonol o unrhyw ffynhonnell er mwyn adnabod rhywun. Os ydym am gasglu gwybodaeth bersonol drwy ein gwefan o’r hyn y gellir adnabod rhywun, byddwn yn dweud wrthych am hyn. Byddwn yn ei gwneud yn glir pan fyddwn yn casglu gwybodaeth bersonol, ac yn egluro’r hyn y bwriadwn ei wneud gyda hi. Enghraifft o hyn fyddai lle’r ydym yn defnyddio ffurflen i’ch galluogi i wneud cais am brosbectws neu wybodaeth arall o’r fath.

Defnydd o gwcis gan wefan Prifysgol Bangor

Ffeiliau testun bychan yw cwcis sy’n cael eu rhoi ar eich cyfrifiadur gan wefannau yr ydych yn ymweld â nhw. Cânt eu defnyddio’n helaeth er mwyn gwneud i wefannau weithio, neu weithio’n fwy effeithlon, yn ogystal â rhoi gwybodaeth i berchnogion y safle. Drwy ddefnyddio ein gwefan/gwefannau, rydych yn cytuno y gallwn roi cwcis ar eich dyfais. Os nad ydych yn dymuno i ni gadw unrhyw gwcis yn ystod eich ymweliad, edrychwch ar adran ‘gwrthod ac analluogi cwcis drwy osodiadau eich porwr‘ y dudalen hon a’r cysylltiadau i gwcis penodol y gellir eu gwrthod. Sylwch, fodd bynnag, y gallai hyn gael effaith sylweddol ar eich profiad.

Mae’r tabl isod yn egluro’r cwcis a ddefnyddiwn ar draws y safle, a pham.

Enw’r Cwci

Pwrpas

Mwy o wybodaeth

PHPSESSID Mae cwci sesiwn yn hanfodol i weithredu rhai rhannau o’r wefan. Caiff ei dynnu pan fyddwch yn cau eich porwr. Ni chedwir unrhyw wybodaeth bersonol. Pan ddefnyddir y cwcis hyn, mae eu hangen i’n safle weithio’n iawn.
prefer-language Cwci sesiwn a ddefnyddir i gadw eich dewis iaith ar gyfer y safle. Hanfodol ar gyfer defnyddio’r safle. Caiff ei dynnu pan fyddwch yn cau eich porwr. Ni chedwir unrhyw wybodaeth bersonol. Pan ddefnyddir y cwcis hyn, mae eu hangen i’n safle weithio’n iawn.
Site_Val Cwci sesiwn – fe’i defnyddir ar y dudalen dalu yn shop.bangor.ac.uk yn unig i alluogi i’r fasged siopa weithio. Ni chedwir unrhyw wybodaeth bersonol. Pan ddefnyddir y cwcis hyn, mae eu hangen i’n safle weithio’n iawn.
ASPSESSIONID Cwci sesiwn – fe’i defnyddir ar y dudalen dalu yn shop.bangor.ac.uk yn unig i alluogi i’r fasged siopa weithio. Ni chedwir unrhyw wybodaeth bersonol. Pan ddefnyddir y cwcis hyn, mae eu hangen i’n safle weithio’n iawn.
fontSize Defnyddir y cwci hwn mewn rhai tudalennau i gadw eich dewis maint ffont. Ni chedwir unrhyw wybodaeth bersonol. Caiff ei dynnu pan fyddwch yn cau eich porwr. Pan ddefnyddir y cwcis hyn, mae eu hangen i’r rhan honno o’n safle weithio’n iawn.
pageStyle_BUACCESSCENTRE Defnyddir y cwci hwn mewn rhai tudalennau i gadw eich dewis o arddull tudalen. Ni chedwir unrhyw wybodaeth bersonol. Caiff ei dynnu pan fyddwch yn cau eich porwr. Pan ddefnyddir y cwcis hyn, mae eu hangen i’r rhan honno o’n safle weithio’n iawn.

Comments are closed