Mathau o Safleoedd
Mae HeritageTogether yn canolbwyntio ar henebion megalithig, dyma rhai enghreifftiau o’r mathau o safleoedd o diddordeb:
Cliciwch ar fath o safle i ddysgu mwy.
Awgrymiadau ar gyfer ymweld â safleoedd :
- Peidiwch â dringo ar unrhyw un o’r henebion – nid yn unig y mae’n beryglus i chi, bydd hefyd yn achosi difrod i’r safle.
- Sicrhewch bod gennych caniatâd gan berchennog y tir os yw’r safle ar dir preifat – yng Nghymru, mae llawer o’r safleoedd wedi’u lleoli ar dir fferm preifat.
- Cofiwch fod y Côd Cefn Gwlad : Parchwch, Gwarchodwch, Mwynhewch!
- Wrth gerdded i safle sy’n pell oddi wrth eich cerbyd neu bobl eraill, gwnewch yn sicr eich bod wedi baratoi yn gywir. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo dillad priodol (esgidiau cerdded, dillad addas ar gyfer y tywydd) ac mae gennych dŵr a mapiau gyda chi. Gall y tywydd newid yn gyflym iawn, ac ni fydd ffonau symudol bob amser yn gael signal mewn ardaloedd anghysbell. Am fwy o wybodaeth, ewch i: http://www.ramblers.org.uk/go-walking/advice-for-walkers.aspx
Awgrymiadau cyffredinol ar gyfer dynnu lluniau:
Mae ffotogrametreg yn gweithio trwy chwilio am nodweddion cyffredin sy’n ymddangos mewn cyfres o lluniau, ac yna defnyddio’r nodweddion hynny i weithio allan lle cafodd pob llun ei tynnu. Drwy wneud hynny gall gyfrifo strwythur y gwrthrych sy’n cael ei ffotograffu a gael model 3D.
Dysgwch mwy am y broses o ffotogrametreg →
I gael y model gorau , dylech ddilyn yr awgrymiadau hyn pan fyddwch yn cymryd eich lluniau. Gallwch hefyd ddewis math o safle i weld awgrymiadau ar gyfer safle penodol.
- Mae angen i chi gymryd llawer o lluniau, y mwyaf y byddwch yn tynnu, y well bydd y model yn edrych.
- Peidiwch â chymryd lluniau o’r un safle, symud o gwmpas y gwrthrych a chymerwch lluniau o onglau wahanol.
- Mae angen i’r lluniau gorgyffwrdd, fel y gall y ffotogrametreg adnabod nodweddion cyffredin. Os ydych yn cerdded o gwmpas heneb a chymryd llun pob cam, dylai fod gennych ddigon o orgyffwrdd drwy’r lluniau.
- Cofiwch i dynnu llun o’r ‘nodweddion cudd’, er enghraifft, ar ben y garreg (os gallwch gyrraedd ddiogel) ac ô dan y capan maen.
- Peidiwch â phrosesu delweddau ar eich cyfrifiadur yn ddigidol cyn eu uwchlwytho.
- Ceisiwch beidio â chymryd lluniau o bobl eraill, gan na allwn dderbyn ffotograffau gyda unrhyw nodweddion adnabod am resymau preifatrwydd.
- Edrychwch ar y ffotograffau a gymerwyd gennym yn ein galeri – efallai y bydd yn eich helpu i ddeall y math o ffotograffau eu hangen arnom.
- Mae’n bosib atodi eich camera ar drybedd, osod amserydd i dynnu llun a codi’r trybedd i fyny i dynnu lluniau o uwch i fyny yn ddiogel (Tip a gyfrannwyd gan ein defnyddiwr PalaeoNick – diolch!)