Ein Modelau 3D

Rydym yn defnyddio ategyn o’r enw X3DOM i arddangos ein modelau, sy’n golygu nad oes rhaid i chi lawrlwytho unrhyw beth ychwanegol.

Yn anffodus, nid yw X3DOM yn cael ei gefnogi ar rhai ddyfeisiau llaw hŷn gan Apple (cyn iOS 8; gweler y rhestr o borwyr a gefnogir yma), felly mae gennym galeri o delweddau statig yn cynnwys lluniau o bob un o’n modelau.


Gweld y Modelau

Dyma rhai rheolaethau camera syml i’w defnyddio gyda’r modelau (gallwch ddarllen mwy am y rheolaethau yma):

  • Cylchdroi trwy glicio’r botwm chwith ar eich llygoden a llusgo.
  • Symudwch trwy ddal y bysell Control ar eich bysellfwrdd, yna glicio’r botwm chwith ar eich llygoden a llusgo.
  • Chwyddo trwy glicio’r botwm dde ar eich llygoden a llusgo, neu ddefnyddio eich olwyn sgrolio os oes gennych un.
  • Gwasgwch y allwedd i ddangos y model cyfan.
  • Pwyswch yr allwedd U i roi’r model yn unionsyth.
  • Gwasgwch yr allwedd R i ailosod y camera i’r olwg gwreiddiol.

Rhai pethau gallwch sylwi

Weithiau, mae yna meysydd sy’n broblem ar y modelau, fel arfer oherwydd nid yw’n bosib dynnu llun o’r ardal ar yr heneb. Dyma rai o’r gwallau byddwch yn gweld yn y modelau a pham eu bod wedi digwydd.

Cofiwch, hyd yn oed os bydd rhywbeth yn mynd o’i le ychydig gyda model, mae’n dal i fod yn ddefnyddiol iawn i ni. Weithiau gallant ei drwsio trwy ychwanegu mwy o luniau, ac ni fyddwn byth yn dweud na i fwy o luniau o’r un safle!

Ewch i’r Galeri Modelau 3D →

Comments are closed