Uwchlwytho Lluniau

  1. A oes gennych unrhyw feini hirion yn eich ardal chi? Gan fod yna gymaint o feini hirion a charneddau yng Nghymru, mae’n debygol bod yna nifer gerllaw. Cymerwch olwg ar ein map i’ch helpu i ddod o hyd i safleoedd, a bob amser gwnewch yn siŵr eu bod yn hygyrch i’r cyhoedd, neu bod gennych caniatâd y tirfeddiannwr.
  2. Archwiliwch eich safleoedd, a cymrwch llawer o luniau. Gallwch ddysgu mwy am sut i gymryd lluniau addas yma. Cadwch yn ddiogel a chofiwch y Côd Cefn Gwlad: Parchwch, Gwarchodwch, Mwynhewch!
  3. Os ydych yn cofrestru ar gyfer y wefan, byddwch yn gallu uwchlwytho eich lluniau eich hun i gael eu gwneud i fodelau. Gallwch hefyd weld lluniau pobl eraill ac ymuno mewn trafodaethau ar ein fforwm. Pam na wnewch chi rannu eich profiadau gyda ni?
  4. Unwaith y bydd gennym ddigon o luniau o safle, gellir eu troi i mewn i fodel 3D. Gallwch weld pob un o’r modelau a wnaed hyd yn hyn yn y galeri – helpwch ni i greu mwy ohonynt!

Comments are closed