Ymunwch â ni yn yr Arddangosfa Bydoedd Cudd yn ystod Gŵyl Gwyddoniaeth Prifysgol Bangor

Bydd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg ac Ysgol Cyfrifiadureg Prifysgol Bangor yn rhoi’r cyfle i chi brofi ymchwil archaeolegol ymarferol yn yr Arddangosfa Bydoedd Cudd – a gynhelir ar 15 Mawrth 2014 yn ystod yr Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg – sy’n rhan o Ŵyl Gwyddoniaeth Bangor.

 

Ar Drywydd Olion y Gorffennol

Archwiliwch dirlun gorffennol Gwynedd gyda thechnegau gwyddonol a ddefnyddir gan archaeolegwyr. Nid gwaith cloddio yn unig yw archaeoleg, ac weithiau y pethau bach sy’n datgelu’r pethau mawr.

      • Rhowch gynnig ar adnabod gronynnau paill hynafol.
        Gall gronynnau paill microsgopig oroesi am filoedd o flynyddoedd gan roi cofnod unigryw i ni o’r coed a’r planhigion hynafol. Ym mha oes y gorchuddiwyd Gwynedd gyfan gan goed? Pa bryd ddechreuodd bobl ffermio?
      • Crëwch eich modelau 3D eich hun o henebion archaeolegol drwy ddefnyddio ffotograffau.
        Nid oes angen offer drudfawr arnoch bob tro i gymryd rhan mewn archaeoleg. Edrychwch sut gellir troi eich ffotograffau’n fodelau 3D i’w gweld ar y rhyngrwyd neu eu hargraffu fel model plastig go iawn y gallwch afael ynddo.
      • Dysgwch sut i wneud gwaith tirfesur.
        Dysgwch sut mae archaeolegwyr yn cofnodi tirluniau a safleoedd a rhowch gynnig ar dirfesur (os yw’r tywydd yn caniatáu).

 

Rhan o’r Arddangosfa Bydoedd Cudd
15fed Mawrth
10am-4pm
yn Adeilad Brambell (gweler rhif 38 ar y map),
Ffordd Deiniol, Bangor

Gŵyl Gwyddoniaeth Bangor: 14 – 23 Mawrth 2014

Comments are closed