Gorffennol Digidol 2014

Roedd yna dangosiad cryf gan y tîm HeritageTogether yn y gynhadledd Gorffennol Digidol yn Llandudno, er gwaethaf gwyntoedd dros 100 milltir yr awr yn chwythu ar y rhodfa, a toriadau trydan dros Cymru i gyd! Heblaw am y tywydd, roedd y gynhadledd yn cyfuniad ardderchog o dechnolegau digidol, archeoleg, ac gwaith allanol ac yr ydym i gyd wedi ein hysbrydoli a’i hadfywio ganddo. Trafodwyd rhai o’r pynciau mawr, yn gynnwys Sganio Laser, Argraffu 3D, UAVs, cyfrifiadureg gweledol a llawer mwy – gan bod HeritageTogether yn cwmpasu’r holl bynciau hyn, roedd yn ardderchog i ni gael gwrdd â chymaint o phobl o’r un anian.

Gosodwyd y stondin HeritageTogether yn brif neuadd y gynhadledd – yn ymyl ein partneriaid YAG – a chafodd ni nifer o bartïon â diddordeb yn gofyn am y prosiect, yn profi ein bwrdd arddangos digidol a fydd yn rhan o’n arddangosfa, a chwarae gyda ein sganwyr laser. Arweinodd Ben ac Andrew weithdy ar ffotogrametreg, a oedd yn llawn gyda chyfranogwyr ag adborth gefnogol a bosibiliadau o cyweithredu. Cafodd y tîm amser gwych, ac rydym eisiau diolch y Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru am gynhadledd wych a cwbl hanfodol!

Diolch yn fawr iawn!

2014-02-13 12.21.55

Helen

Rydw i yn cyfrifiadurwr (neu tarwr bysellfwrdd!) yn gweithio fel rhan o'r tîm HeritageTogether ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Comments are closed