Arddangosfa yn agor yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Bore ‘ma rydym wedi sefydlu ein arddangosfa yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar Gampws Penglais ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’r arddangosfa yn dangos dipyn o’r gwaith yr ydym wedi cyflawni hyd yn hyn yng Ngogledd Cymru, gyda wybodaeth am y broses o greu modelau 3D a rhai awgrymiadau ar sut i dynnu lluniau eich hun. Ar ein bwrdd cyffwrdd, gallwch ddysgu mwy am dri o’r safleoedd yr ydym wedi astudio ar Ynys Môn, a gweld y modelau 3D rydym wedi gwneud ohonynt.

Dewch i gael golwg! Mae’r arddangosfa ar y llawr cyntaf ger mynedfa’r Neuadd Fawr.

loading map - please wait...

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth Arts Centre 52.415524, -4.063066 Arddangosfa HeritageTogether Exhibitions 04/08/14 - 05/09/14 See Event / Gweld digwyddiadAberystwyth University, Llanbadarn Fawr, Y Deyrnas Unedig (Directions)

Helen

Rydw i yn cyfrifiadurwr (neu tarwr bysellfwrdd!) yn gweithio fel rhan o'r tîm HeritageTogether ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Comments are closed