Fel rhan o’r Wyl Being Human, yr wyl dyniaethau gyntaf o’i bath yn y DU, dan arweiniad the School of Advanced Study, Prifysgol Llundain mewn partneriaeth â Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a’r Academi Brydeinig, hoffem eich gwahodd i daith dywys o gwmpas safleoedd treftadaeth yng ngogledd Cymru. Caiff pob safle ei gyflwyno mewn sgwrs fer a roddir gan archaeolegydd a rhoddir cyfarwyddyd manwl ar dynnu lluniau at ddibenion ffotogrametreg 3D. Ar y diwedd bydd gennych set hyfryd o luniau y gellwch eu huwchlwytho i wefan y project er mwyn creu model 3D o’r safleoedd y buoch yn ymweld â hwy.
Wrth gwrs mae’r gweithgarwch awyr agored hwn yn dibynnu ar y tywydd. Cofiwch wisgo dillad glaw cynnes! Ond os bydd y tywydd yn wael, byddwch yn ymweld â lleoliadau dan do e.e. amgueddfeydd, lle gellwch dynnu lluniau o eitemau a ddarganfuwyd ac arddangosiadau a’u huwchlwytho wedyn i’r wefan.
Pryd: dydd Mawrth, 18 Tachwedd, 09:00 hyd 16:00
Ble: Maes Parcio Prif Adeilad y Celfyddydau, Ffordd y Coleg, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG
Mae mynediad i’r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ond mae niferoedd yn gyfyngedig ac mae angen archebu lle ymlaen llaw drwy wefan y digwyddiad Eventbrite tudalen.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Katharina Moeller (k.moeller@bangor.ac.uk or 01248 382247)
Archebwch yn awr! Tocynnau ar gael yma.
Dilynwch ni ar Twitter: BeingHuman | HeritageTogether
Noddir y digwyddiad hwn gan: