Fel rhan o’r Ŵyl Being Human, yr ŵyl dyniaethau gyntaf o’i bath yn y DU, dan arweiniad the School of Advanced Study, Prifysgol Llundain mewn partneriaeth â Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a’r Academi Brydeinig, hoffem eich gwahodd i weithdy ffotogrametreg lle byddwch yn dysgu creu modelau 3D o ffotograffau. Gellwch naill ai ddefnyddio lluniau a ddarperir gennym ni neu ddod â’ch lluniau eich hun. Edrychwch ar ein harweinlyfr maes i gael rhai awgrymiadau ar sut i dynnu lluniau da.
Hefyd gellwch ymuno ag un o’n teithiau maes ddydd Sul 16 neu ddydd Mawrth 18 Tachwedd, i gael taith dywys o gwmpas safleoedd treftadaeth yng ngogledd Cymru a’r cyfle i dynnu lluniau. Dilynwch y cysylltiadau i gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau hyn.
Pryd: dydd Sadwrn, 22 Tachwedd,10:00 hyd 16:00
Ble: Prif Adeilad y Celfyddydau Prifysgol Bangor, Ystafell Cyfrifiaduron CR1, Ffordd y Coleg, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG
Mae mynediad i’r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ond mae niferoedd yn gyfyngedig ac mae angen archebu lle ymlaen llaw drwy wefan y digwyddiad Eventbrite tudalen.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Katharina Moeller (k.moeller@bangor.ac.uk or 01248 382247)
Archebwch yn awr! Tocynnau ar gaela yma.
Dilynwch ni ar Twitter: BeingHuman | HeritageTogether
Noddir y digwyddiad hwn gan: