Taith Maes Ŵyl Being Human i Caergybi

DSC_8734Helo na, Katharina ydw i ac rwy’n un o’r archeolegwyr sy’n gweithio ar y Project Treftadaeth Gyda’n Gilydd (Heritage Together). Rwy’n gweithio yn yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg ym Mhrifysgol Bangor ac yn ddiweddar cefais y pleser o arwain ychydig o bobl o gwmpas safleoedd treftadaeth ar Ynys Môn fel rhan o’r Ŵyl Being Human, gŵyl genedlaethol gyntaf y dyniaethau.

DSC_8734Y lle gwnaethom stopio ynddo gyntaf oedd i weld Maen Hir Tŷ Mawr, oddi ar gyffordd 2 yr A55. Yn wreiddiol roeddwn wedi bwriadu dod â’m cyfrifiadur at yr heneb i gymharu ein model 3D o’r garreg gyda’r maen go iawn. Fodd bynnag, roedd yn rhy heulog ac felly ni fyddech wedi medru gweld unrhyw beth ar y sgrin. Ond dwi ddim yn cwyno am ddiwrnod heulog ym mis Tachwedd! Felly, arhosodd y cyfrifiadur ar y bws tra gwnaethom fwynhau’r heulwen a thynnu set arall o luniau o’r garreg.

 

DSC_8856O Tŷ Mawr fe wnaethom gerdded i Siambr Gladdu Trefignath, bedd megalithig sydd ond taith gerdded 10 munud i fyny’r ffordd. Tra bod y Maen Hir yn rhy dal i ni dynnu lluniau o’i dop heb bolyn camera, cawsom broblem arall gyda’r siambr gladdu, sef maint sylweddol iawn y safle cyfan. Ond, wedi treulio’r haf cyfan yn tynnu lluniau 3D o tua 300m2 o ffosydd ar safle hen fryngaer Meillionydd yn Llŷn, rwy’n hyderus ein bod wedi llwyddo i dynnu digon o luniau i greu model 3D o’r safle rhyfeddol hwn. Rydw i’n wirioneddol edrych ymlaen i weld beth y bydd fy nghydweithwyr yn yr adran Cyfrifiadureg yn llwyddo i’w wneud efo’n lluniau.

 

DSC_8943Roeddem wedi bwriadu galw nesaf i weld Bedd Gorsedd Gwlwm ond, ar ôl yr holl law yn ystod yr wythnosau diwethaf, roedd y tir yn rhy wlyb. Pan geisiais fynd yno’r diwrnod cyn y daith ni lwyddais i fynd yn agos at yr heneb hyd yn oed; roeddwn at fy fferau mewn mwd a phyllau dŵr. Yn hytrach, aethom yn syth i Ynys Lawd a cherdded o gwmpas yno, cyn mynd i weld Tai Crynion Mynydd Caergybi (a elwir hefyd yn Dai Crynion Tŷ Mawr), anheddiad o’r Oes Haearn. Beth bynnag a ddywedwch, roedd i’w weld fel pe bai pobl yn ôl bryd hynny yn gwerthfawrogi golygfa dda gymaint â ninnau heddiw.

 

 

DSC_8949DSC_9101DSC_9113

Y lle olaf i ni aros ynddo’r diwrnod hwnnw oedd y Gaer Rufeinig yng Nghaergybi. Dim ond y muriau allanol sy’n sefyll, ond mae yna hen eglwys o fewn y muriau hefyd, sy’n ddiddorol iawn. Oddi yno aethom nôl i Fangor. Drwodd a thro cawsom ddiwrnod hyfryd a heulog yn ardal Caergybi a gweld rhai safleoedd hynod ddiddorol. Llawer o ddiolch i bawb a gododd yn fuan ar ddydd Sul i ymuno â mi ar y daith. Gobeithio eich bod i gyd wedi mwynhau’r diwrnod gymaint ag y gwnes i.

Dilynwch ni ar Twitter: BeingHuman | HeritageTogether

Noddir y digwyddiad hwn gan:
Logo 1Logo 2Logo 3

Comments are closed